Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
11 Tachwedd 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6619
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Gofynnwyd y 9 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 7 a 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhoi'r Strategaeth Ryngwladol ar Waith
Dechreuodd yr eitem am 15.06
4 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 16.08
I’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn sgil y datganiad ar frechlyn COVID-19 gan Pfizer, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch strategaeth ar gyfer cyflwyno'r brechlyn ledled Cymru?
5 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 16.18
Gwnaeth Gareth Bennett ddatganiad am: Cymru yn ennill Cwpan Ddartiau y Byd.
Gwnaeth Adam Price ddatganiad am: Coleg Elidyr.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.21 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 16.29
Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, cafod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau eu grwpio ar gyfer eu trafod a phleidleisio arnynt.
NDM7471 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
NDM7472 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o Bwyllgor y Llywydd.
NDM7473 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
NDM7474 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
2. Caroline Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22
Dechreuodd yr eitem am 16.29
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7458 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, a osodwyd gerbron y Senedd ar 4 Tachwedd 2020 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
13 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl ar Ddeiseb P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud
Dechreuodd yr eitem am 16.50
NDM7460 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud’ a gasglodd fwy na 67,000 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol
Dechreuodd yr eitem am 17.17
NDM7461 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith yr achosion Covid-19 ar y diwydiannau creadigol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol
Dechreuodd yr eitem am 17.51
NDM7459 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Caffael yn yr Economi Sylfaenol - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2020.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.22 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Llywydd.
10 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Lluoedd Arfog
NDM7456 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai heddiw yw Diwrnod y Cadoediad.
2. Yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethau ein gwlad, gan gynnwys clwyfedigion sifil gwrthdaro.
3. Yn diolch i'r holl sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gweithio i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a'n cyn-filwyr.
4. Yn mynegi diolch am gyfraniad sylweddol y Lluoedd Arfog i'r ymateb COVID-19 cenedlaethol yng Nghymru.
5. Yn cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r fyddin yn ei wneud i Gymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth iddi geisio cynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Cyfamod y Lluoedd Arfog (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
8 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
11 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.24 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Llywydd.
Dechreuodd yr eitem am 19.29
12 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 19.30
NDM7457 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Mynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yn GIG Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.49
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2020